Nehemiah 12

Rhestr o offeiriaid a Lefiaid

1Dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid ddaeth yn ôl i Jerwsalem o Babilon gyda Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa: a

Offeiriaid:

Seraia, Jeremeia, Esra,
2Amareia, Malŵch, Chattwsh,
3Shechaneia, Rechwm, Meremoth,
4Ido, Gintoi, Abeia,
5Miamin, Maadia, Bilga
6Shemaia, Ioiarîf, Idaïa,
7Salw, Amoc, Chilceia, ac Idaïa.

(Nhw oedd penaethiaid yr offeiriaid a'i cydweithwyr yng nghyfnod Ieshŵa.)

Lefiaid:

8Ieshŵa, Binnŵi, Cadmiel, Sherefeia, Jwda, a Mataneia yn gyfrifol am y caneuon mawl.
9Bacbwceia ac Wnni a'u cydweithwyr yn sefyll gyferbyn â nhw yn y gwasanaethau.

Disgynyddion Ieshŵa

10Roedd Ieshŵa yn dad i Ioiacim, Ioiacim yn dad i Eliashif, Eliashif yn dad i Ioiada, 11Ioiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Iadwa.

Arweinwyr claniau'r offeiriaid

12Dyma'r offeiriaid oedd yn arweinwyr eu clan pan oedd Ioiacim yn archoffeiriad:

Offeiriad Clan
Meraia – o glan Seraia
Chananeia – o glan Jeremeia
Meshwlam – o glan Esra
Iehochanan – o glan Amareia
Jonathan – o glan Malwch
Joseff – o glan Shefaneia
Adna – o glan Charîm
Chelcai – o glan Meraioth
Sechareia – o glan Ido
Meshwlam – o glan Ginnethon
Sichri – o glan Abeia
12:17 Mae'r enw ar goll yn y rhestr Hebraeg.
– o glan Miniamîn
Piltai – o glan Moadeia
Shammwa – o glan Bilga
Jonathan – o glan Shemaia
Matenai – o glan Ioiarîf
Wssi – o glan Idaïa
Calai – o glan Salw
Eber – o glan Amoc
Chashafeia – o glan Chilceia
Nethanel – o glan Idaïa

Cofnod o glaniau yr offeiriaid a'r Lefiaid

22Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia). 23Roedd cofrestr o'r Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wedi ei gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol.

24Arweinwyr y Lefiaid: Chashafeia, Sherefeia, Iehoshwa, Binnŵi
12:24 fel adn.8. Hebraeg, “fab”
, a Cadmiel. Yna eu cydweithwyr oedd yn sefyll gyferbyn â nhw i foli a diolch i Dduw (Roedd un côr yn wynebu y llall fel roedd Dafydd, dyn Duw, wedi dweud.)

25Yna Mataneia, Bacbwceia, Obadeia, Meshwlam, Talmon ac Accwf yn ofalwyr yn gwarchod y drysau i'r stordai wrth y giatiau. 26Roedd y rhain i gyd yn gweithio yn y cyfnod pan oedd Ioiacim (mab Ieshŵa fab Iotsadac) yn archoffeiriad, Nehemeia yn llywodraethwr, ac Esra'r offeiriad yn arbenigwr yn y Gyfraith.

Cysegru Waliau Jerwsalem

27Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dyma'r Lefiaid o bob man yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau. 28Roedd y cantorion wedi eu casglu hefyd, o'r ardal o gwmpas Jerwsalem a pentrefi Netoffa, 29Beth-gilgal, a'r wlad o gwmpas Geba ac Asmafeth. (Roedd y cantorion wedi codi pentrefi iddyn nhw eu hunain o gwmpas Jerwsalem.)

30Pan oedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, dyma nhw'n cysegru'r bobl, y giatiau, a'r wal.

31Trefnais i arweinwyr Jwda sefyll ar dop y wal, a cael dau gôr i ganu mawl. Roedd un côr i arwain yr orymdaith ar y wal i gyfeiriad y de at Giât y Sbwriel. 32Yn eu dilyn nhw roedd Hoshaia a hanner arweinwyr Jwda. 33Wedyn Asareia, Esra a Meshwlam, 34Jwda, Benjamin, Shemaia, a Jeremeia – 35offeiriaid gydag utgyrn. Yna'n olaf Sechareia fab Jonathan (mab Shemaia, mab Mataneia, mab Michaia, mab Saccwr, mab Asaff) 36a'i gyd-gerddorion – Shemaia, Asarel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Chanani – gyda'r offerynnau cerdd oedd y brenin duwiol Dafydd wedi eu dewis. (Esra yr arbenigwr yn y Gyfraith oedd yn arwain y grŵp yma). 37Dyma nhw'n mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd i'r dwyrain.

38Wedyn roedd yr ail gôr i fynd i'r cyfeiriad arall. Dyma fi'n eu dilyn nhw ar hyd y wal gyda hanner arall yr arweinwyr. Aethon ni heibio Tŵr y Poptai at y Wal Lydan, 39dros Giât Effraim, Giât Ieshana, Giât y Pysgod, Tŵr Chanan-el, a Tŵr y Cant, at Giât y Defaid, a stopio wrth Giât y Gwarchodwyr.

40Wedyn dyma'r ddau gôr oedd yn canu mawl yn cymryd eu lle yn y deml. Dyma finnau yn gwneud yr un fath, a'r grŵp o arweinwyr oedd gyda fi, 41a'r offeiriaid oedd yn canu utgyrn – Eliacim, Maaseia, Miniamîn, Michaia, Elioenai, Sechareia a Chananeia. 42Hefyd Maaseia, Shemaia, Eleasar, Wssi, Iehochanan, Malcîa, Elam ac Eser. Yna dyma'r corau yn canu dan arweiniad Israchïa. 43Roedd yn ddiwrnod o ddathlu a cafodd llawer iawn o aberthau eu cyflwyno. Roedd Duw wedi gwneud pawb mor hapus. Roedd y gwragedd a'r plant yno yn dathlu hefyd, ac roedd sŵn y dathlu yn Jerwsalem i'w glywed o bell.

Penodi dynion i gasglu'r cyfraniadau

44Y diwrnod hwnnw cafodd dynion eu penodi i ofalu am y stordai, lle byddai cyfraniadau'r bobl yn cael eu cadw – y ffrwythau cyntaf, a'r degymau. Dyna lle byddai cyfraniadau'r bobl i'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cael eu casglu, yn ôl faint o gaeau oedd yn perthyn i bob pentref. Roedd pobl Jwda yn falch o'r offeiriaid a'r Lefiaid oedd yn gwasanaethu. 45Nhw, gyda'r cantorion a gofalwyr y giatiau, oedd yn arwain y defodau ac yn cynnal seremonïau'r puro, fel gwnaeth y brenin Dafydd a'i fab Solomon orchymyn. 46Ers pan oedd y brenin Dafydd ac Asaff yn fyw, roedd yna rai yn arwain y cantorion, a'r caneuon o fawl a diolch i Dduw. 47Felly yn amser Serwbabel a Nehemeia fel llywodraethwyr, roedd pobl Israel i gyd yn rhoi cyfran i'r cantorion a'r gofalwyr, fel roedd angen bob dydd. Roedden nhw hefyd yn cadw cyfran i'r Lefiaid, ac roedd y Lefiaid yn cadw cyfran i'r offeiriaid, disgynyddion Aaron.

Copyright information for CYM